Amdanom
Shw mae! Gwenllian ydw i, sylfaenydd Siop Gacennau Gwen / Gwen’s Cake Shop.
Rwy wedi bod wrthi’n cynnal fy musnes ers oeddwn i’n 14 oed, yn creu cacennau i deulu a ffrindiau ac i gwsmeriaid. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae fy musnes wedi tyfu ac felly agorais siop yn Nhregaron ac yma rwy’n cynhyrchu a gwerthu fy nghacennau.
Daw fy nghariad at bobi o weld fy nwy famgu, pan oeddwn yn blentyn, wrthi’n pobi a choginio a finne’n rhoi help llaw.
Cynheuwyd fy niddordeb mewn bwyd yn gyffredinol ac ymlaen â fi i’r coleg lleol Coleg Ceredigion Aberystwyth i astudio Coginio Proffesiynol.
Es ymlaen wedyn i weithio mewn caffi yn Llanbed fel aelod o staff blaen tŷ ac yna symud mewn i’r gegin fel y chef.
Wedi i mi orffen yng Ngholeg Ceredigion, mynychais gwrs nos am flwyddyn yn Coleg Sir Gar, gan astudio Addurno Cacennau er mwyn ehangu fy mhrofiad a gwybodaeth.
Ar ôl hir ystyried, roeddwn am her newydd, felly es i weithio mewn popty lleol yn Llanbed, gan arbenigo mewn bara surdoes a chacennau toes. Treuliais sawl blwyddyn gyda’r cwmni cyn mentro amdani gan agor siop gacennau, yn fy nhre enedigol, Tregaron.
Yn ddiweddar, gan fod y busnes yn ehangu, symudais i leoliad newydd sy’n cynnig mwy o le i bobi a pharatoi. Agorais siop goffi/ gacennau, lle gall y cyhoedd fy ngweld wrth fy ngwaith a chyfle iddynt fwynhau paned a chacen mewn awyrgylch braf.